2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

ADDYSG, Cymru

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, Cymru

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

GWASANAETHAU IECHYD, CYMRU

HADAU, Cymru

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

TRETHI, CYMRU

Y GYMRAEG, CYMRU

Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn (ar wahân i reoliad 10) wedi eu gwneud drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 2 (yn Rhan 2) yn gwneud diwygiadau i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (2011 mccc 1) i ymdrin â chyfeiriadau at “un neu ragor o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd”. Daw’r rheoliad hwn i rym ar y diwrnod ymadael.

Mae rheoliad 3 (yn Rhan 3) yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/732 (Cy. 137)) (“Rheoliadau Bwyd 2019”) sy’n gwneud darpariaeth sy’n cywiro diffygion mewn deddfwriaeth fwyd ddomestig sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 3(2) yn diwygio rheoliad 2(7) o Reoliadau Bwyd 2019 drwy roi “yr awdurdodau priodol” yn lle “yr awdurdodau perthnasol”. Mae rheoliad 3(3) yn diwygio rheoliad 7(5)(a) o Reoliadau Bwyd 2019 drwy roi “yr Ynysoedd Prydeinig” yn lle “y Deyrnas Unedig”. Mae’r diwygiadau hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cyd-fynd â newidiadau sy’n cael eu gwneud i gyfraith arall yr UE a ddargedwir.

Mae rheoliad 4 (yn Rhan 4) yn diwygio Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/460 (Cy. 110)) (“Rheoliadau Llifogydd 2019”) sy’n gwneud darpariaeth sy’n cywiro diffygion mewn deddfwriaeth llifogydd a dŵr ddomestig sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. Mae rheoliad 4(2) yn diwygio rheoliad 5(3)(a) o Reoliadau Llifogydd 2019 i ymdrin â chyfeiriad gwallus.

Mae rheoliad 5 (yn Rhan 5) yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/738 (Cy. 141)) (“Rheoliadau Tatws Hadyd 2019”). Mae Rheoliadau Tatws Hadyd 2019 yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 sy’n gwneud darpariaeth sy’n llywodraethu marchnata ac ardystio tatws hadyd yng Nghymru.

Mae rheoliad 5(2) a (3) yn diwygio testun Cymraeg Rheoliadau Tatws Hadyd 2019 i ymdrin â gwallau drafftio.

Mae rheoliad 5(4) yn amnewid testun Cymraeg rheoliad 2(17)(b)(iii) o Reoliadau Tatws Hadyd 2019 i gynnwys cyfeiriad at datws gradd S yr Undeb a hepgorwyd drwy gamgymeriad yn flaenorol.

Mae rheoliad 6 (yn Rhan 6) yn gwneud diwygiad i reoliad 7 o Reoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005 (O.S. 2005/422 (Cy. 40)) (“Rheoliadau 2005”) i ddileu’r diffiniad o “EEA State”. Mae’r diffiniad hwn bellach yn ddiangen o ganlyniad i’r diwygiad a wnaed i reoliad 7 o Reoliadau 2005 gan reoliad 3 o Reoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/436 (Cy. 104)). Daw’r rheoliad hwn i rym ar y diwrnod ymadael.

Mae’r diwygiadau a wnaed gan reoliadau 7 ac 8 (yn Rhan 7) yn ofynnol o ganlyniad i Reoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/419) (“yr OS Diogelu Data”). Mae’r OS Diogelu Data yn gwneud diwygiadau i’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (Rheoliad (EU) 2016/679) (“y GDPR”) gan ei fod yn rhan o gyfraith ddomestig ar ymadawiad y DU â’r UE. Gan na fydd y GDPR yn gymwys yn uniongyrchol yn y DU mwyach, mae’r OS Diogelu Data yn cyflwyno un drefn ar gyfer gweithgareddau prosesu cyffredinol o’r enw GDPR y DU. Mae angen gwneud newidiadau i Ddeddf Diogelu Data 2018 drwyddi draw, ac i ddeddfwriaeth arall, o ganlyniad i hyn.

Mae rheoliad 7 yn diwygio Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3239 (Cy. 286)) i gywiro cyfeiriadau at y GDPR a rhoi cyfeiriadau at GDPR y DU yn eu lle.

Mae rheoliad 8 yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1942 (Cy. 209)), eto gan gywiro cyfeiriadau at y GDPR a rhoi cyfeiriadau at GDPR y DU yn eu lle.

Daw rheoliadau 7 ac 8 i rym ar y diwrnod ymadael.

Mae rheoliad 9 (yn Rhan 7) yn gwneud diwygiad i Atodlen 3 i’r OS Diogelu Data o ganlyniad i wneud rheoliadau 7 ac 8 o’r Rheoliadau hyn. Mae’r diwygiad hwn yn dileu’r diwygiadau a wnaed gan yr OS Diogelu Data i Reoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008 a Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011 gan y bydd y diwygiadau hyn wedi eu gwneud gan reoliadau 7 ac 8 o’r Rheoliadau hyn. Mae’r diwygiadau a wnaed gan yr OS Diogelu Data i ddod i rym ar y diwrnod ymadael. Er mwyn sicrhau na ddaw’r diwygiadau a wnaed gan yr OS Diogelu Data i rym, daw rheoliad 9 i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.

Mae rheoliad 10 (yn Rhan 8) wedi ei wneud drwy arfer y pŵer a roddir i Weinidogion Cymru gan adran 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (2017 dccc 1) (“Deddf 2017”) ac mae’n gwneud diwygiad i adran 36(12) o Ddeddf 2017 i ddileu’r diffiniad o “cynllun buddsoddi torfol”. Mae’r diffiniad hwn bellach yn ddiangen o ganlyniad i ddiddymu adran 36(6) o Ddeddf 2017 gan Reoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/833 (Cy. 153)) a ddaw i rym ar y diwrnod ymadael. Daw rheoliad 10 i rym ar y diwrnod ymadael.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

ADDYSG, Cymru

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, Cymru

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

GWASANAETHAU IECHYD, CYMRU

HADAU, Cymru

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

TRETHI, CYMRU

Y GYMRAEG, CYMRU

Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni                ***

Gwnaed                                                 ***

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       ***

Yn dod i rym                                           ***

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]) ac adran 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (yn ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([3]), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd mewn perthynas â’r diwygiadau a wneir gan Ran 3 o’r Rheoliadau hyn.

Fel sy’n ofynnol gan baragraff 4(a) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, ymgynghorwyd â’r Ysgrifennydd Gwladol wrth i’r Rheoliadau hyn gael eu llunio.

RHAN 1

Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

(3) Daw rheoliadau 3, 4, 5 a 9 i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.

(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2

Diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud â’r Gymraeg

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

2.(1)(1) Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011([4]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff 3 o Atodlen 5 (y categorïau o berson y caniateir eu hychwanegu at Atodlen 6), yn y diffiniad o “arian cyhoeddus” hepgorer y geiriau a ganlyn o baragraff (a)—

neu

(v) un neu ragor o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd;.

(3) Ym mharagraff 2 o Atodlen 7 (y categorïau o berson y caniateir eu hychwanegu at Atodlen 8), yn y diffiniad o “arian cyhoeddus” hepgorer y geiriau a ganlyn o baragraff (a)—

neu

(v) un neu ragor o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd;.

RHAN 3

Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd

Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

3.(1)(1) Mae Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(7), yn lle “yr awdurdodau perthnasol” rhodder “yr awdurdodau priodol”.

(3) Yn rheoliad 7(5)(a), yn lle “y Deyrnas Unedig” rhodder “yr Ynysoedd Prydeinig”.

RHAN 4

Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd

Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019

4. Yn rheoliad 5(3)(a) o Reoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019([6]), yn lle “Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl” rhodder “Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/1787”.

RHAN 5

Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â hadau

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

5.(1)(1) Mae rheoliad 2 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019([7]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn nhestun Cymraeg paragraff (12), hepgorer “, 8”.

(3) Ar ôl paragraff (12) mewnosoder—

(12A) Yn nhestun Cymraeg paragraff 8(b) o Ran 3 o Atodlen 1—

(a)   ym mharagraff (i), ar ôl “gradd S” mewnosoder “y DU”,

(b)   ym mharagraff (ii), ar ôl “gradd SE” mewnosoder “y DU”, ac

(c)   ym mharagraff (iii), ar ôl “gradd E” mewnosoder “y DU”.

(4) Yn y testun Cymraeg, yn lle paragraff (17)(b)(iii) rhodder—

                    (iii)  yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “SE”, yng ngholofn 2, yn lle “radd S yr Undeb neu’n radd SE yr Undeb” rhodder “radd S y DU, gradd SE y DU, gradd S yr Undeb neu radd SE yr Undeb”.

RHAN 6

Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chyllid llywodraeth leol

Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005

6. Yn rheoliad 7(3) o Reoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005([8]), hepgorer y diffiniad o “EEA State”.

RHAN 7

Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â goruchwylio rheolaeth a defnydd cyffuriau a reolir a datgelu cofnodion addysgol a diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â diogelu data

Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008

7.(1)(1) Mae Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008([9]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)     hepgorer y diffiniad o “y GDPR”;

(b)     yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “GDPR y DU” yr un ystyr ag a roddir i “the UK GDPR” yn Rhannau 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(10) a (14) o’r Ddeddf honno);.

(3) Yn rheoliad 25(7) (dyletswydd i gydweithredu drwy ddatgelu gwybodaeth ynglyn â phersonau perthnasol), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.

(4) Yn rheoliad 26(6) (cyrff cyfrifol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i gael ei datgelu am bersonau perthnasol), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.

(5) Yn rheoliad 29(3) (adroddiadau ar ddigwyddiadau), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.

Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011

8.(1)(1) Mae rheoliad 5 o Reoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011([10]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff (5)(a) a (b), yn lle “y GDPR” rhodder “GDPR y DU”.

(3) Yn lle paragraff (6) rhodder—

(6) Yn y rheoliad hwn, mae i “GDPR y DU” yr un ystyr ag a roddir i “the UK GDPR” yn Rhannau 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(10) a (14) o’r Ddeddf honno).

Rheoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Diwygiadau etc) (Ymadael â’r UE) 2019

9. Yn Atodlen 3 i Reoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Diwygiadau etc) (Ymadael â’r UE) 2019([11]), hepgorer paragraffau 71 i 75 a pharagraffau 90 ac 91.

RHAN 8

Diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud â threthu trafodiadau tir

Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

10. Yn adran 36(12) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017([12]), hepgorer y diffiniad o “cynllun buddsoddi torfol”.

 

 

Enw

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])   2018 p. 16. Gweler adran 20(1) o’r Ddeddf honno am y diffiniad o “devolved authority”.

([2])   2017 dccc 1.

([3])   OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([4])   2011 mccc 1.

([5])   O.S. 2019/732 (Cy. 137).

([6])   O.S. 2019/460 (Cy. 110).

([7])   O.S. 2019/738 (Cy. 141).

([8])   O.S. 2005/422 (Cy. 40), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3050, O.S. 2016/645 ac O.S. 2019/436 (Cy. 104); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

([9])   O.S. 2008/3239 (Cy. 286), a ddiwygiwyd gan adran 211(1)(b) o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12) a pharagraff 334 o Atodlen 19 iddi. Mae diwygiadau perthnasol wedi eu gwneud gan O.S. 2019/419 ond ni ddaw’r rhain i rym tan y diwrnod ymadael. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

([10]) O.S. 2011/1942 (Cy. 209), a ddiwygiwyd gan adran 211(1)(b) o Ddeddf Diogelu Data 2018 a pharagraffau 365(1), 365(2)(a) a 365(3)(a) o Atodlen 19 iddi. Mae diwygiadau perthnasol wedi eu gwneud gan O.S. 2019/419 ond ni ddaw’r rhain i rym tan y diwrnod ymadael. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

([11]) O.S. 2019/419, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([12]) 2017 dccc 1.